P-05-707 – Rhaid i Hyfforddiant Athrawon Gynnwys Hyfforddiant Statudol ar Awtistiaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tim Thomas ar ôl casglu 313 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Un o'r prif bryderon ar gyfer pobl sy'n gofalu am bobl ag Awtistiaeth yw'r diffyg dealltwriaeth gan athrawon ac eraill sy'n gweithio yn y proffesiwn addysg.
Tra bod addysgu yng Nghymru o ansawdd uchel, gellid gwneud gwelliannau o ran codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, yn enwedig o ystyried pa mor gyffredin mae wedi dod yn y gymdeithas. Cynigir, fel rhan o'r adolygiad hyfforddi athrawon Saesneg, bydd Anghenion Addysgol Arbennig, gan gynnwys Awtistiaeth yn rhan allweddol o hyfforddiant athrawon yn Lloegr. Rhaid i'r adolygiad o
Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru sicrhau bod athrawon yn cael hyfforddiant penodol a statudol o ran cefnogi pobl ag Awtistiaeth fewn amgylchedd yr ysgol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pen-y-bont ar Ogwr
· Gorllewin De Cymru